Eglwys y Crwys

Eglwys y Crwys Presbyterian Church of Wales - Eglwys Bresbyteraidd Cymru

🌟 Braf iawn oedd derbyn y neges hyfryd hon heddiw gan ein pregethwr gwadd dros y Sul, yr Athro Ddr Eryl Wynn Davies:“Dio...
14/09/2026

🌟 Braf iawn oedd derbyn y neges hyfryd hon heddiw gan ein pregethwr gwadd dros y Sul, yr Athro Ddr Eryl Wynn Davies:

“Diolch am y croeso yn y Crwys ddoe – roedd yna gynulleidfa dda yno a da oedd gweld plant yn dal i ddweud adnodau.”

Ie, diolch yn fawr iawn i chi yr aelodaeth am eich cefnogaeth, eich presenoldeb a’ch cyfraniad at fywyd Eglwys y Crwys. Mae’n galonogol iawn gweld cynulleidfa dda, a’r genhedlaeth ifanc yn rhan mor naturiol o’r oedfa. 🙏

Yn fyw yn awr!
13/09/2026

Yn fyw yn awr!

Enjoy the videos and music you love, upload original content, and share it all with friends, family, and the world on YouTube.

Sul 13 Medi yn y CrwysCroeso cynnes i’n hoedfa am 10.30yb dan ofal yr Athro Eryl Wynn Davies. Bydd yr Ysgol Sul yn cyfar...
12/09/2026

Sul 13 Medi yn y Crwys

Croeso cynnes i’n hoedfa am 10.30yb dan ofal yr Athro Eryl Wynn Davies. Bydd yr Ysgol Sul yn cyfarfod fel arfer yn ystod oedfa’r bore, a gellir ymuno â’r oedfa ar-lein drwy’r ddolen arferol.

🤝 Bwydo’r digartref – tro’r Crwys yn y Tabernacl am 1.30yp. Dewch i wirfoddoli, a byddem yn ddiolchgar am deisennau a ffrwythau.

☕ Coffi ar y Camera – 11yb fore Mawrth.

Croeso cynnes i bawb!

Newyddion y CrwysCroeso cynnes yn ôl wedi gwyliau’r haf!⛪ Sul 6 Medi – Oedfa Gymun am 10.30yb yn y Crwys ac ar-lein, ac ...
05/09/2026

Newyddion y Crwys

Croeso cynnes yn ôl wedi gwyliau’r haf!

⛪ Sul 6 Medi – Oedfa Gymun am 10.30yb yn y Crwys ac ar-lein, ac oedfa am 6yh dros Zoom yn unig.

📖 Ysgol Sul – yn ailymgynnull fore Sul 13 Medi.

🤝 Bwydo’r digartref – tro’r Crwys yn y Tabernacl, Sul 13 Medi am 1.30yp. Croeso i wirfoddolwyr a chyfraniadau o deisennau a ffrwythau.

🚢 Logos Hope – oedfa Gymraeg ym Mae Caerdydd, nos Fercher 16 Medi am 7.30yh.

📚 Agor y Llyfr – ymarfer cyntaf y tymor yn festri’r Crwys, bore Iau 17 Medi am 10.00yb. Croeso i unrhyw un sydd â diddordeb.

Diolch hefyd i bawb a ddaeth i’r Bore Gwaith fore Sadwrn — cafwyd bore buddiol iawn! Dyma lun o’r gweithwyr yn cael panel haeddiannol!

Croeso cynnes i bawb.

03/09/2026

Yn ddiweddar cyhoeddodd y Parchg Richard Cleaves gyfrol newydd yn seiliedig ar ei waith ymchwil diweddaraf. Teitl y gyfrol yw Imagining Luke-Acts in Roman Britain through the Eyes of the People of the Bloomberg Tablets, the Vindolanda Tablets, and the Uley Tablets. Cewch yr hanes yn y rhifyn cyfredol o Cenn@d.

https://www.ebcpcw.cymru/wp-content/uploads/2026/09/Cennad-288-1.pdf

📖 Mae rhifyn Medi o’r Gadwyn wedi cyrraedd!Wrth inni ddechrau tymor newydd yn y Crwys, mae digon i’w ddarllen yn y rhify...
03/09/2026

📖 Mae rhifyn Medi o’r Gadwyn wedi cyrraedd!

Wrth inni ddechrau tymor newydd yn y Crwys, mae digon i’w ddarllen yn y rhifyn diweddaraf: newyddion a dyddiadau’r eglwys, atgofion o Eisteddfod y Garreg Las, teyrnged arbennig i Eirwen Jones, pererindod i Fro Ergyn, a darganfyddiad annisgwyl yn Siena — heb anghofio Tudalen yr Ifanc!

☕ Gwnewch baned, agorwch Y Gadwyn a mwynhewch ddarllen!
Croeso nôl i’r Crwys — a chroeso nôl i Y Gadwyn.

Dyma drefniadau gweddill mis Awst a rhai dyddiadau pwysig i’w nodi:Sul, 23 Awst – Eglwys Ebeneser10.00yb – Canolfan yr E...
23/08/2026

Dyma drefniadau gweddill mis Awst a rhai dyddiadau pwysig i’w nodi:

Sul, 23 Awst – Eglwys Ebeneser
10.00yb – Canolfan yr Eglwys Newydd, Old Church Road
3.00yp – Yr Eglwys Fethodistaidd
Dan arweiniad y Barchg. Catrin Roberts.

Sul, 30 Awst – Eglwys Salem
10.30yb – Oedfa dan arweiniad y Parchg. Evan Morgan.
Cawsom hefyd wahoddiad i ymuno â’n cyfeillion yng Nghapel y Tabernacl am 6.00yh, dan arweiniad y Barchg. Sian Elin Thomas, Crymych.

🔨 Bore Gwaith – Sadwrn, 5 Medi, 9.30yb–12.00yp
Trefnir Bore Gwaith yn y Crwys. Gobeithio y gall cymaint â phosibl ddod draw i roi help llaw, am gyfnod byr neu am y bore cyfan.
A chofiwch eiriau Genesis: “Trwy chwys dy wyneb y bwytei fara!”

📣 Galwad am wirfoddolwyr – Sul, 13 Medi
Tro’r Crwys yw hi i helpu gyda bwydo’r digartref yn y Tabernacl. Gofynnir i bawb gyrraedd erbyn 1.30yp, a bydd y gwaith yn parhau tan tua 3.45–4.00yp. Byddem hefyd yn ddiolchgar iawn am gyfraniadau o deisennau a digon o ffrwythau. Os gallwch helpu, cysylltwch â mi.

Diolch yn fawr ymlaen llaw am eich cefnogaeth. Croeso cynnes i bawb.

Cennad - yn ffres o’r wasg.
19/08/2026

Cennad - yn ffres o’r wasg.

Yn Cennad yr wythnos hon – Aled Davies sy’n cynnig Tair Tudalen o bigion o Eisteddfod y Garreg Las, Awst 1af i’r 8fed wrth i’r Eglwysi gynnig croeso i’r miloedd a rhaglen lawn o weithgareddau yn eu pabell.

https://www.ebcpcw.cymru/wp-content/uploads/2026/08/Cennad-286-1.pdf

19/08/2026

Calling all teachers! We still have a few Gopher Science Lab grants left for 2026 - don't miss out!

Gopher Science Lab supports transition from primary to secondary school with peer to peer learning across age groups. Secondary students learn how to deliver activities to primary pupils. Then those primary pupils are encouraged to deliver their own training to peers or younger year groups. This gives all participating students ownership of their learning and helps them gain confidence.

The Gopher Science Lab day includes:
- a grant of £600
- access to RSB’s Gopher Science Lab online training course
- a teacher mentor to help you train your students

A teacher who previously took part in Gopher Science Lab said, "We were delighted to find that the training materials provided by the RSB were extremely accessible and comprehensive. It was therefore a straightforward process to cascade the training down to our senior pupils."

Find out more including how to apply: www.rsb.org.uk/activity-resources

⛪ Trefniadau’r Suliau – Gweddill Mis AwstDyma drefniadau’r Suliau ar gyfer gweddill mis Awst wrth inni ymweld ag eglwysi...
15/08/2026

⛪ Trefniadau’r Suliau – Gweddill Mis Awst

Dyma drefniadau’r Suliau ar gyfer gweddill mis Awst wrth inni ymweld ag eglwysi eraill (felly nid yn y Crwys):

📅 Sul, 16 Awst – Eglwys Minny Street
🕤 9.30 y bore a 6.00 yr hwyr
Y Parchedig Dylan Rhys Parry

📅 Sul, 23 Awst – Eglwys Ebeneser
🕙 10.00 y bore – Canolfan yr Eglwys Newydd, Old Church Road
🕒 3.00 y prynhawn – Yr Eglwys Fethodistaidd
Y Parchedig Catrin Roberts

📅 Sul, 30 Awst – Eglwys Salem
🕥 10.30 y bore yn unig
Y Parchedig Evan Morgan

📌 Nodyn ar gyfer eich dyddiaduron – Bore Gwaith yn y Crwys

Ar ran Pwyllgor yr Adeilad, mae Eurwyn Wiliam yn ein hatgoffa y cynhelir Bore Gwaith ar fore Sadwrn, 5 Medi, rhwng 9.30 y bore a 12.00 y prynhawn.

Roedd y sesiwn ddiwethaf yn fuddiol iawn, ond mae tro byd wedi ers hynny! Gobeithiwn y gall cymaint â phosibl ddod draw i roi help llaw — am gyfnod byr neu am y bore cyfan.

Ac fel y dywed Genesis:
“Trwy chwys dy wyneb y bwytei fara!” 😊

Diolch yn fawr ymlaen llaw am eich cefnogaeth.

Address

77 Richmond Road
Cardiff
CF243AR

Opening Hours

10:30am - 11:30am
6pm - 7pm

Website

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Eglwys y Crwys posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share