11/07/2025
‼️ PLIS RHANNWCH / PLEASE SHARE ‼️
Wrth fy modd o allu dweud ein bod wedi gallu cael cadair olwyn ar gyfer mynd ar y traeth yn Aberdaron! 😃
Mae croeso i unrhyw un ei defnyddio, yn rhad ac am ddim.
Cyfle i BAWB gael mwynhau’r traeth.
Bydd system archebu mewn lle yn fuan, ond am ‘rwan mae croeso i unrhyw un fy ffonio i (07791984515) neu fynd i Ty Newydd Aberdaron neu Porth y Swnt (National Trust) i’w nôl.
Diolch mawr iawn i’r Ymddiriedolaeth genedlaethol a Tŷ Newydd Aberdaron am eich cefnogaeth.
Diolch mawr iawn hefyd i Cyngor Cymuned Aberdaron, Peter Reid (elusen wheely Pete) a John Brynmor Hughes (elusen Cronfa Wil) am eich Cymorth i archebu’r gadair. 👏👍😃❤️
English Version in comments