03/03/2026
🇯🇵 O Okinawa i Gymru: Heddwch a Gwrthsafiad dros 10,000 o Gilometrau
🏴 From Okinawa to Wales: Peace and Resistance Across 10,000 Kilometres
🕊️ Mae Okinawa yn gartref i un o fudiadau heddwch mwyaf gwydn y byd – ond nid oes fawr neb yn gwybod amdano. Dechreuodd y mudiad yn sgil trawma’r Ail Ryfel Byd, ac yna fe ddatblygodd dros 27 mlynedd dan oresgyniad yn yr Unol Daleithiau. Heddiw mae pobl o bob cefndir yn Okinawa yn parhau i fynegi eu heddychiaeth drwy ralïau torfol, meddiannu adeiladau, comedi a chelf.
🍃 Okinawa is home to one of the world’s most resilient – yet little-known – peace movements. Rooted in the trauma of World War II, then honed during 27 years of US occupation, today Okinawans from all walks of life continue to express their pacifism through mass rallies, sit-ins, comedy and art.
📝 Yn y sgwrs hon yn y Deml Heddwch, bydd Jon yn trafod ei lyfr diweddaraf Why are We in Okinawa? A History of Violence (Bloomsbury Academic 2026). Mae’r llyfr yn olrhain sut cafodd yr ynysoedd eu cyfeddiannu gan Japan, eu goresgyn gan yr Unol Daleithiau, a sut y maent erbyn heddiw dan fwy a mwy o fygythiad gan Tsieina. Ochr yn ochr â gwreiddiau heddychiaeth yn Okinawa, bydd Jon yn archwilio’r tebygrwydd rhwng Cymru ac Okinawa. Er bod bron i 10,000 cilomedr rhyngddynt, mae’r ddau le wedi profi gwahaniaethu, gormes ieithyddol a chamfanteisio amgylcheddol – ffactorau sydd wedi meithrin ymrwymiad cadarn i heddwch a chyfiawnder cymdeithasol.
🫂 In this talk at the Temple of Peace, Jon will discuss his latest book Why are We in Okinawa? A History of Violence (Bloomsbury Academic 2026). The book traces how the islands were annexed by Japan, occupied by the United States, and are today increasingly threatened by China. Alongside the origins of Okinawan pacifism, Jon will explore the parallels between Wales and Okinawa. Despite being separated by almost 10,000 kilometres, both have experienced discrimination, linguistic suppression and environmental exploitation – factors that have engendered a steadfast commitment to peace and social justice.
🔗 Link in bio