Eisteddfod Powys 2026

Eisteddfod Powys 2026 🎪3ydd-4ydd o Orffennaf 2026🎪
Croeso i dudalen Eisteddfod Talaith a Chadair Powys Bro Ddyfi.

Tlws IeuenctidLlongyfarchiadau gwresog i Heledd Edwards, Talerddig a ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth Y Tlws Ieuen...
27/07/2026

Tlws Ieuenctid
Llongyfarchiadau gwresog i Heledd Edwards, Talerddig a ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth Y Tlws Ieuenctid, am ei chasgliad o 3 darn o waith gwreiddiol.

Mae Heledd yn ddisgybl yn Ysgol Bro Hyddgen, newydd gwblhau arholiadau TGAU, ac yn gobeithio mynd ymlaen i'r Chweched Dosbarth yno ym mis Medi. Y beirniad oedd Mari George.

Cafodd y Tlws ei greu gan y wneuthurwraig leol Elin Angharad, a diolch o galon i Huw Jones ac Eirian, Henllys am noddi'r gystadleuaeth.

Llongyfarchiadau mawr i Heledd hefyd ar ei llwyddiant yn dod i'r brig yn y gystadleuaeth hon yn Eisteddfod Llanbrynmair yn ddiweddar. Gwych iawn. Dalier ati!

Darllenwch yma-
Rhyddiaith Tlws Ieuenctid: www.eisteddfodpowys.co.uk/downloads/2026/rhyddiaith/rhyddiaith-ieuenctid.pdf

Mae holl waith llenyddol a beirniadaethau ar gael ar ein GWEFAN: www.eisteddfodpowys.co.uk

📸Gyda diolch i Cathrin Eleri Humphreys am y llun.

📸Lluniau: Nos WenerGyda diolch i Cathrin Eleri Humphreys.
27/07/2026

📸Lluniau: Nos Wener
Gyda diolch i Cathrin Eleri Humphreys.

📸Lluniau: Nos SadwrnGyda diolch i Cathrin Eleri Humphreys.
25/07/2026

📸Lluniau: Nos Sadwrn
Gyda diolch i Cathrin Eleri Humphreys.

Cwpan David PeateLlongyfarchiadau mawr i Gerallt Rhys Jones , Brynmeurig ar dderbyn Cwpan David Peate, am ei lwyddiant y...
25/07/2026

Cwpan David Peate
Llongyfarchiadau mawr i Gerallt Rhys Jones , Brynmeurig ar dderbyn Cwpan David Peate, am ei lwyddiant yn yr adran Gosod Blodau.

📸Gyda diolch i Cathrin Eleri Humphreys am y lluniau.

Cystadleuaeth Cyfansoddi AgoredLlongyfarchiadau gwresog i Liam Stuart Rickard ar ddod yn fuddugol yn y gystadleuaeth Cyf...
25/07/2026

Cystadleuaeth Cyfansoddi Agored
Llongyfarchiadau gwresog i Liam Stuart Rickard ar ddod yn fuddugol yn y gystadleuaeth Cyfansoddi Agored, Eisteddfod Powys 2026.

Y briff oedd cyfansoddi tôn Newydd i’r geiriau 'Nid wy’n gofyn bywyd moethus'. Diolch i'r beirniad, Sioned Webb am feirniadaethau calonogol i'r tri wnaeth gystadlu.

📸Gyda diolch i Cathrin Eleri Humphreys am y lluniau.

Cystadleuaeth Tlws y DysgwrLlongyfarchiadau mawr i Linda McGrath ar ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth Tlws y Dysgwr, ...
25/07/2026

Cystadleuaeth Tlws y Dysgwr
Llongyfarchiadau mawr i Linda McGrath ar ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth Tlws y Dysgwr, Eisteddfod Powys Bro Ddyfi 2026!

Yn y gystadleuaeth hon, gofynwyd am ddau ddarn o waith gwreiddiol, ar unrhyw thema. Daeth 5 ymgais i law, ac yn ôl y beirniad Sue Hyland, roedd y safon yn arbennig o dda!

Diolch i'r wneuthurwraig leol Elin Angharad am greu'r Tlws arbennig yma, ac i Rhiain Bebb a Howard Potter am noddi'r Tlws.

Darllenwch y gwaith buddugol a'r feirniadaeth yma-

Tlws y Dysgwr:http://www.eisteddfodpowys.co.uk/downloads/2026/dysgwyr/tlws-y-dysgwr.pdf

Beirniadaeth:http://www.eisteddfodpowys.co.uk/downloads/2026/dysgwyr/beirniadaeth-tlws-y-dysgwr.pdf

📸Gyda diolch i Cathrin Eleri Humphreys am y lluniau.

Mae holl weithiau a beirniadaethau llenyddol yr Eisteddfod yn fyw ar ein GWEFAN rŵan: www.eisteddfodpowys.co.uk.

Cystadleuaeth y GadairLlongyfarchiadau i Arwel Emlyn Jones ar ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfo...
25/07/2026

Cystadleuaeth y Gadair
Llongyfarchiadau i Arwel Emlyn Jones ar ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Powys Bro Ddyfi 2026! Bu iddo dderbyn y wobr am ei awdl yn seiliedig ar y testun 'Llwybrau', a'r beirniad oedd Carwyn Eckley.

Daw 'Crwydryn Arfordir Cymru' yn wreiddiol o Ruthun, ac fel y mae'r ffugenw'n awgrymu, mae'n hoff iawn o grwydro, ac wedi cerdded arfordir Cymru i gyd! Yn ôl y beirniad, dyma 'feistr cynganeddol'.

Darllenwch yma-

Y Gadair:http://www.eisteddfodpowys.co.uk/downloads/2026/barddoniaeth/y-gadair.pdf

Beirniadaeth Y Gadair:http://www.eisteddfodpowys.co.uk/downloads/2026/barddoniaeth/beirniadaeth-y-gadair.pdf

Mae'r gadair arbennig yma wedi'i chreu gan y gwneuthurwr lleol Aled Lewis Furniture Design. Diolch o galon i UAC/FUW am noddi'r Gadair.

Mae holl weithiau a beirniadaethau llenyddol yr Eisteddfod yn fyw ar ein GWEFAN rŵan: www.eisteddfodpowys.co.uk.

📸 Gyda diolch i Cathrin Eleri Humphreys am y lluniau.

24/07/2026
Cystadleuaeth y GoronLlongyfarchiadau i Heledd Glyn ar ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Powys ...
21/07/2026

Cystadleuaeth y Goron
Llongyfarchiadau i Heledd Glyn ar ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Powys Bro Ddyfi 2026! Bu iddi dderbyn y wobr am ei chasgliad o weithiau rhyddiaith yn seiliedig ar y testun 'Gwawrio', a'r beirniad oedd Mari George.

Mae Heledd yn wraig, yn fam i dri o blant ac yn athrawes yn Ysgol Bro Idris, Dinas Mawddwy. Braf oedd gweld cynrychiolaeth o Ysgol Bro Idris wrth i nifer helaeth o'r disgyblion gymryd rhan yn y ddawns flodau neu fel swyddogion cynorthwyol yn ystod y seremoni.

Mae'r goron arbennig yma wedi'i chreu gan y wneuthurwraig dalentog Gemwaith Mari Eluned Jewellery. Diolch o galon i UCA am noddi'r Goron.

Mae holl weithiau a beirniadaethau llenyddol yr Eisteddfod yn fyw ar ein GWEFAN rŵan: www.eisteddfodpowys.co.uk.

Anhygoel, bob un ohonoch. Llongyfarchiadau anferthol i'r disgyblion ac i Mrs Heledd Glyn ar ddod yn fuddugol yng nghysta...
15/07/2026

Anhygoel, bob un ohonoch. Llongyfarchiadau anferthol i'r disgyblion ac i Mrs Heledd Glyn ar ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Goron!🌟👑🎶✍🏼🎪
Llwyddiannau Ysgol Bro Idris

Address

Machynlleth

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Eisteddfod Powys 2026 posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share

Category