29/01/2026
🤩 Ieeesu mawr, lle i gychwyn?! (English post separate)
Rwan bod y llwch wedi setlo, mae'n bryd edrych yn ôl ar lwyddiant ysgubol gŵyl Yr Arfordir Amgen Dydd Sadwrn diwethaf yn Y Bae a dweud DIOLCH enfawr i bawb a oedd yn rhan o greu egni ac awyrgylch croesawgar, creadigol ac anhygoel yn y dref!
📃Rhestr... DIOLCH I...
🫂Y tîm trefnu a'r gwirfoddolwyr a helpodd mewn amryw o ffyrdd ar y diwrnod 🙌
🏛️Y lleoliadau gwych! Ink., Sheldons Cafe Bar, The Station Inn a The Bay Hop. Gwnaethoch chi i gyd popeth oedda chi'n gallu wrth i ni gymryd eich venues drosodd a da ni'n gwerthfawrogi eich ffydd ynom ni a'r digwyddiad a'ch holl help!
🎼Yr holl fandiau, DJs ac artistiaid (wedi'u tagio yn y sylwadau); cymaint o amrywiaeth o ran arddulliau a genres ond roedden nhw i gyd yn wirioneddol wych. Cymaint o uchafbwyntiau! Parch mawr i chi fyd. Hefyd, heb anghofio John Lawrence (PA yn yr Orsaf) a Dale (PA yn Ink) - sain gwych!
👷♂️👩🎓🧑🚀🧙♂️🧜♀️ Y llu o bobl (o'r Bae ac o bell) a ddaeth allan i fwynhau a chefnogi'r gigs - roedden ni'n c*chu brics braidd wrth gynnal yr ŵyl yn ystod mis mwyaf diflas y flwyddyn ond, doedd dim angen i ni boeni! Mi ddaeth y bobl!
💷Yn olaf, ond yn bwysig iawn, i'r partneriaid a'r ariannwyr a alluogodd Yr Arfordir Amgen i ddigwydd (ac i'r bandiau, y PAs etc gael eu talu!)... Menter Iaith Conwy a Pwyllgor Colwyn - llwyth o gymorth cyffredinol, gweinyddol, a threfniadol. Diwylliant Conwy Culture ( ) am ariannu gig Ink.
Noson Allan - Night Out (Cyngor Celfyddydau Cymru) am helpu i ariannu gig The Station. 'Gigs 4 a 6' am rodd hael iawn a gwerthfawr i helpu i dalu costau cyffredinol, yn enwedig yn Sheldons. Cronfa Gwynt y Môr (trwy Menter Iaith) am rai o'r costau yn Sheldons a chostau hyrwyddo. 🤝
🍻 I'r dim, welwn ni chi blwyddyn nesaf (a chyn hynny hefyd, mwy na thebyg) Gwyliwch y gofod...